Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Unigolyn
1. Egwyddorion cyffredinol y Bil
1.1 A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?
1.2 Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)
Mae'r penderfyniad i fabwysiadu cwricwlwm â phwyslais ar sgiliau gan adael cynnwys ym mhenderfyniad athrawon i'r fath raddau yn mynd i greu anghysondebau enfawr ar draws Cymru. Ymhellach, mae'r gwagle gwybodaeth pwrpasol hwn yn hollol ideolegol a chynifer o arbennigwyr addysgol yn bwysleiso'r angen ar gyfet gwybodaeth pynciol fel sail i ddisgyblion datblygu dealltwriaeth dwfn a'r gallu i adeiladu ymhellach a chanfod gwybodaeth o'r newydd.
Dylid hefyd ystyried profiad yr Alban o gwricwlwm o'r un fath a'r critigaeth gref ohonno yn sgil perfformiad addysgol gwan yn y gwlad hwnnw.
Hoffwn gweld cwricwlwm sy'n cytbwys o ran gwybodaeth a sgiliau, ond well fyth mae angen ffocws ar recriwtio a hyfforddi athrawon. Mae angen diwygio cymhwyster sy'n taflu myfyrwyr i'r pen dwfn ac yn or-dibynnol ar ansawdd y tiwtoriaid lleoliad. Mae angen Coleg Addysg Cenedlaethol sy'n cynnal ymchwil ymarferol o fri ac yn gyrru safonau yn y proffesiwn. Mae angen cymhwyster meistr dros 3 flynedd wedi ei hariannu'n hael a rhifau wedi eu rheoli yn ol y galw. Mae angen dechrau athro newydd gymhwyso ar ddechrau'r uwch graddfa ond rhoi codiad ar hyd y llwybr tâl ond ar cyrraedd meini prawf mwy rymus. Cofia ein bod ni'n cystadlu â diwydianau sy'n talu llawer mwy tu hwnt i Gymru.
1.3 A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Siwr o fod.
2. Gweithredu’r Bil
2.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Na.
2.2 A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
3. Canlyniadau anfwriadol
3.1 A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Oes. Fel soniais uchod rydych yn gadael gormod i ddehongliad athrawon gyda gyn-lleied o arweinyddiaeth. Nid Cwricwlwm i Gymri di hwn ond Carte Blanche am gwricwlau i ysgolion unigol. Bydd anghysondeb lled Cymru ac rwy'n ofnu'n fawr am safonau yn sgil profiad yr Alban.
4. Goblygiadau ariannol
4.1 A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Na.
5. Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth
5.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)
Na.
6. Ystyriaethau eraill
6.1 A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)
Na.